Skip to main content

Dominic yn helpu pobl digartref ar ol cyfnod allan o waith

Roedd Dominic Adams allan o waith pan fu ar raglen hyfforddeion ClwydAlyn. Mae’n dweud wrthym sut y daeth yn rheolwr un o’i gynlluniau.

“Roeddwn yn ddi-waith ac yn denant gyda ClwydAlyn pan gefais y cyfle cyntaf i fynd ar raglen hyfforddiant. Fe wnes ddechrau fel gweithiwr prosiect, ond byddai fy rheolwr yn aml yn rhoi fy enw ymlaen am gyfleoedd datblygu newydd. Roeddent yn gwybod sut i fanteisio i’r eithaf ar fy nghryfderau a sut i unioni fy ngwendidau ac er mod i’n awr yn rheolwr un o gynlluniau ClwydAlyn, nid yw’r hyfforddiant wedi dod i ben. Rwyf wedi bod ar raglenni hyfforddiant rheoli yn ddiweddar sy’n helpu i gefnogi fy swydd.

Cefais brofiad o fod yn ddigartref yn y gorffennol ac rwy’n teimlo fod hynny’n fy rhoi mewn sefyllfa dda i ddeall beth mae pobl yn mynd drwyddo a sut y gallaf eu cefnogi. Heddiw, gallaf ddweud yn hapus fy mod yn briod, gyda dau o blant a chartref , ac mae hynny i gyd oherwydd i mi ddod yn rhan o sefydliad sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Mae’n wych gwybod y gallaf nawr roi rhywbeth yn ôl. Mae’n hyfryd gweld y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i fywydau pobl, ond mae hefyd yn werth chweil edrych arnynt yn gweld y newidiadau yn eu bywydau hefyd.

Mae ClwydAlyn wedi rhoi cyfle i mi unioni’r problemau yn fy mywyd, a dwi ddim yn meddwl y gallwn i weithio unrhyw le arall nawr.”


Mae Dominic yn rheolydd hyfforddiant yn ClwydAlyn