“Roeddwn yn un o’r bobl newydd gyntaf i gael eu recriwtio pan ddaeth Cartrefi Conwy yn gymdeithas tai yn ôl yn 2008, ar ôl symud yno ar ôl bod yn gweithio i Gyngor Conwy.
Doeddwn i erioed wedi clywed am gymdeithasau tai cyn i mi gychwyn gyda’r sefydliad, heb sôn am beth oedd yn ei olygu i fod yn rhan o un.
Gallaf ddweud yn saff nad oes dau ddiwrnod wedi bod yr un fath yn y 10 mlynedd diwethaf. Rydym bob amser yn newid fel sefydliad ac yn edrych ar ffyrdd newydd i wneud pethau a sut y gallwn wneud mwy i gefnogi ein tenantiaid.
Gan fod yn berson pobl, rwyf wrth fy modd gyda fy swydd yn Cartrefi Conwy. Rwy’n mwynhau gweithio mor agos gyda chwsmeriaid a chanfod ffyrdd newydd i wella bywydau pobl, ac wedyn weld y canlyniadau.”
Mae Amy yn Rheolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid gyda Cartrefi Conwy