Skip to main content

Dechreuodd Beki gyrfa am oes ar ôl gorffen cynllun graddedigion

Dechreuodd Beki Lee-Burrows weithio yn y sector tai naw mlynedd ar ôl iddi orffen gradd mewn Cyfathrebu Cyfryngau. Er ei bod yn ystyried ei hun yn lwcus i fedru gweithio gartref yn ystod argyfwng Covid-19, ni all aros i fynd yn ôl i weithio mas yn y gymuned eto. Darllenwch ei stori yma:

“Dechreuodd fy nhaith tai naw mlynedd yn ôl, ac mae amser wir yn hedfan pan ydych yn cael hwyl.

Deuddydd ar ôl graddio gyda gradd mewn Cyfathrebu Cyfryngau o Brifysgol De Cymru, dechreuais weithio gyda Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf ar Leoliad Cyfryngau.

Roedd yn gynllun 10 wythnos i raddedigion, mewn partneriaeth gyda Go Wales. Roeddwn wrth fy modd a dim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond gallaf eich sicrhau nad oedd yn cynnwys bod yn Swyddog Cyfathrebu gyda chyllid craidd erbyn 2020. Cafodd fy nghontract ei ymestyn bob tro yr oedd i ddod i ben, nes i mi gael fy ngwneud yn aelod parhaol o’r tîm.

Rwyf wedi caru pob munud o weithio yn y sector tai. Mae’n yrfa mor werth chweil, gwybod fy mod yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl a’r teuluoedd yn fy nghymuned leol.

Rwy’n lwcus iawn i fedru mynd i’r gwaith bob dydd a gwneud swydd rwyf wrth fy modd gyda hi.

Mae fy nhasgau fel Swyddog Cyfathrebu bob amser wedi bod yn seiliedig ar sianeli cyfathrebu ar-lein ac oddi ar-lein, ond ers Covid-19 mae popeth rwy’n ei wneud ar hyn o bryd ar-lein.

Rwy’n creu cynnwys ac yng ngofal ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac mae gennym gryn nifer! Facebook, Twitter Instagram, YouTube a LinkedIn. Mae’n bwysig tu hwnt i mi ddefnyddio iaith rhwydd ei darllen a’i deall, ac rwy’n gweithio’n galed i gynllunio cyfathrebu ansawdd da sy’n ennyn diddordeb pobl.

Yn ogystal â rhannu cyhoeddusrwydd ar ein cyfryngau cymdeithasol a gwefan, rwy’n rhannu llawer gyda’n staff hefyd. Rwy’n paratoi  cylchlythyrau  rheolaidd  i wneud yn siŵr ein bod yn hysbysu staff am y newyddion diweddaraf yn ogystal â straeon cadarnhaol a chyngor ar lesiant, gan ein bod yn awr yn gwybod yn fwy nag erioed pa mor bwysig yw ein hiechyd corfforol a meddyliol.

Rwyf hefyd yn arwain ar gael staff gyda’n gilydd – yn rhithiol hynny yw!

Mae gennym wahanol gyfarfodydd galw heibio rhithiol ar gyfer staff, lle gallant drafod cwestiynau, syniadau a sylwadau gydag uwch reolwyr, cael adborth o Gyfarfodydd Bwrdd, ac rydym yn cael cyfarfod cymdeithasol ar ddiwedd wythnos brysur. Mae hyn yn wirioneddol yn codi’r ysbryd ac wedi ein cadw yn teimlo wedi cysylltu yn ystod y pandemig.

Mae gweld pobl wyneb i wyneb yn rhywbeth rwyf wir yn ei golli. Mae Tîm Cynon Taf yn ymfalchïo yn y berthynas wych sydd gennym gyda’n tenantiaid, ac rwy’n ffodus i dreulio llawer o fy amser gyda nhw, ein haelodau bwrdd a rhai yn ein cymunedau lleol, yn siarad nhw a chasglu eu straeon.

Mae hyn yn rhywbeth ryw’n wirioneddol edrych ymlaen at ei wneud eto, pan mae’n ddiogel i bawb wneud hynny.

Mae Beki Lee-Burrowes yn Swyddog Cyfathrebu gyda Grŵp Cartrefi Cynon Taf