Cynghorion am yrfa yn y maes tai
Er nad yn y maes tai y dechreuais fy ngyrfa, rwyf wedi canfod fod y sector yn em cudd, gyda byd gwych o gyfleoedd ar gael os ydych yn ddigon chwilfrydig i fentro mewn a’u hymchwilio.
Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am bobl ac wrth fy modd yn gweld pobl yn datblygu, dysgu a thyfu. Er fod llawer o elfennau i Adnoddau Dynol, ei swyddogaeth graidd yw creu gwerth drwy ei bobl. Mae gan bawb sgiliau y maent naill ai’n ddigon ffodus i feddu arnynt yn naturiol neu’n ddigon penderfynol i’w dysgu.
Mae llawer o sgiliau presennol y gallwch eu trosglwyddo i rôl newydd yn y maes tai. Os ydych yn gyfrifydd ariannol mewn banc, gallech ymuno â’r tîm cyllid mewn cymdeithas tai a llunio ein cynlluniau cymunedol a chyllido. Ydych chi’n gweithio mewn manwerthu, yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid? Ymunwch ag un o’r cynlluniau i breswylwyr dros 55 sy’n cefnogi’r preswylwyr mwy bregus hynny lle mae cyfathrebu ac amynedd yn werthoedd pwysig. Gweithio mewn Adnoddau Dynol? Ymunwch â thîm Adnoddau Dynol a gwirioneddol weld gwerth datblygu profiad cydweithwyr a sut y gallant gefnogi cymunedau bodlon sydd wedi ymgysylltu.
Mae mathau dibendraw o swyddi mewn tai, o yrfa mewn Gwasanaethau Digidol, i Adfywio a Datblygu, i Wasanaeth Cwsmeriaid a thu hwnt.
Os ydych yn ystyried symud i swydd yn y maes tai yma, dyma dri o gynghorion i’w hystyried:
- Deall beth sy’n eich cymell a’r hyn sy’n bwysig i chi. Mae’r maes tai yn gymdeithasol gynhwysol gan roi pobl a chymunedau wrth galon ei weithgareddau. Byddwch yn teimlo’n rhan o rywbeth ac yn hoffi fod gennych ddiben.
- Mae tai angen pob math gwahanol o syniadau a barn. Os mai dim ond mewn cwmnïau preifat yr ydych wedi gweithio hyd yma, mae’n debyg y byddech yn canfod croeso i’ch syniadau a barn fasnachol. Dydych chi ddim angen cefndir yn y sector cyhoeddus i weithio yn y maes tai!
- Gallwch weld eich llwyddiant bob dydd. Ewch heibio un o’ch prosiectau adfywio newydd sydd wedi darparu 200 cartref ar gyfer teuluoedd incwm isel a chreu cymuned newydd. Clywch drosoch eich hun sut y gwnaethoch chi’n haws i gwsmeriaid oedrannus dalu eu rhent. Mae boddhad yn rhan o’r swydd.
Byddwch ddewr, byddwch chwilfrydig ac ymchwiliwch y cyfleoedd. Dewch yn arwr tai.