Skip to main content

Bod yn Aelod o Fwrdd CHC

Mae Andrew Vye wedi gweithio ar draws y Sectorau Tai Cyhoeddus a Thrydydd Sector yng Nghymru am y 20 mlynedd ddiwethaf ac mae ar hyn o bryd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi a Chymunedau Grŵp Pobl. Bu’n Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru ers 2018. Yma mae Andrew yn siarad am fanteision bod yn aelod bwrdd:

“Mae tîm Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn grŵp bach ond effeithlon tu hwnt o unigolion angerddol, craff, agored, dilys a chysylltiedig sy’n dod ynghyd o amgylch uchelgais syml iawn i wneud cymdeithasau tai Cymru y gorau y gallant fod. Mae CHC yn credu’n angerddol fod gan gymdeithasau tai rôl allweddol wrth lunio Cymru well. Caiff ein syniadau fel bwrdd bob amser eu llunio gan yr egwyddor hon.

Fel rhan o’r Bwrdd gwneir i chi deimlo fel rhan bwysig o’r tîm hwnnw lle mae’ch barn yn cyfrif, lle caiff eich llais ei glywed a lle caiff syniadau grŵp eu herio’n gyson. Mae dod â bwrdd CHC a thîm CHC ynghyd bob amser yn teimlo fel ymdrech ar y cyd.

Ni ddylai neb sy’n ymuno â’r bwrdd ddisgwyl taith rwydd – mae llawer o feddwl mawr i gael ei wneud. Byddwch yn treulio cymaint o amser yn helpu i lunio syniadau strategol ag y byddwch ar yr ochr ymddiriedol a goruchwylio rhedeg y busnes.

Am sefydliad bach, mae CHC yn anelu’n uchel ac mae ganddo gyrraedd a dylanwad anhygoel. Bydd gweithio ar y bwrdd yn eich datblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, beth bynnag eich profiad blaenorol. Byddwch yn cael dirnadaeth unigryw o sut mae llywodraeth yn gweithio a’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a’r bobl.

Mae CHC yn wirioneddol gynrychioladol. Fel aelod bwrdd byddwch yn dysgu am y materion sy’n effeithio ar bob cymdeithas tai sy’n aelodau, mawr a bach, yn y Gogledd a’r De.

Yn olaf – rwy’n credu fod profiad Covid wedi bod yn adeg diffiniol i CHC. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r sefydliad a’i dimau arweinyddiaeth wedi ysgogi’r sector, dod ag ef ynghyd a helpu i ddangos pwysigrwydd tai a gwasanaethau gofal yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol yma.

Mae’r profiad wedi gwneud CHC yn gryfach ac yn fwy perthnasol nag erioed. Rwy’n falch iawn i fod yn gysylltiedig gyda CHC ac edrychaf ymlaen at y 12 mis nesaf pan fydd CHC yn helpu i wneud synnwyr o’r ychydig fisoedd diwethaf, casglu’r dysgu, a chefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru i lunio a dylanwadu ar yr heriau o’n blaenau.”

Gwnewch gais i ddod yn aelod o fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru yma.