Bu Howard Crackle yn gweithio yn y maes bancio am 40 mlynedd ac roedd yn barod am newid. Yma mae’n esbonio sut mae’n dal i ymwneud gyda chyllid tra’n gwneud gwahaniaeth fel aelod bwrdd Cymdeithas Tai Taf a hefyd Gymdeithas Abbeyfield Cymru:
“Dechreuais weithio i’r NatWest yn 1979, gan symud maes o law i ochr gorfforaethol y sefydliad gan weithio gyda chwmnïau bach, canolig a mawr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau o amgylch Prydain.
Noddodd NatWest fy MBA yn 1999 ac wedyn symudais i Gaerdydd, lle dechreuais ofalu am fancio ar gyfer cartrefi gofal, fferyllfeydd a meddygfeydd teulu, cefnogi twf a chaffaeliadau, yn cynnwys datblygiadau newydd. Yn 2010 dechreuais weithio yn yr un maes ar gyfer Barclays, cyn symud i ganolbwyntio ar y sector addysg a’r sector gofal cymdeithasol yn 2014.
Erbyn mis Medi 2019, ar ôl 40 mlynedd yn y maes bancio, roeddwn yn teimlo’n barod i wneud rhywbeth gwahanol. Doeddwn i ddim eisiau rhoi’r gorau i weithio’n llwyr serch hynny, a roeddwn yn awyddus i barhau i gefnogi’r sector tai cymdeithasol , ar ôl sylweddoli’n gyflym eu bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y gymuned.
Holais fy nghysylltiadau i weld os oedd unrhyw gyfleoedd ar gael i gymryd rhan yn y sector. Yn yr hydref roeddwn yn llwyddiannus i gael fy mhenodi yn Is-gadeirydd Archwilio a Risg Cymdeithas Tai Taf ac yn Is-gadeirydd a Chadeirydd Archwilio a Chraffu gyda Chymdeithas Abbeyfield Cymru.
Mae gweithio mewn bancio am mor hir wedi fy ngadael gyda blynyddoedd o brofiad, sydd wedi ategu fy rôl newydd fel aelod bwrdd, mynd i’r afael â’r heriau cysylltiedig, tra hefyd yn rhoi cyfle i gefnogi cymunedau hyd yn oed ymhellach. Mae’r sgiliau gennyf i edrych ar heriau o safbwynt ariannol a helpu’r busnes i gyflawni’n well sydd yn ei dro yn helpu tenantiaid i fyw bywyd gwell.
Mae bod yn aelod bwrdd yn ystod pandemig Covid-19 wedi dod â’i heriau ei hun. Mae methu cwrdd wyneb yn wyneb wedi ei gwneud yn anos i feithrin perthynas a gweld sut mae pethau’n gweithio o fewn y sefydliad ar sail un-i-un.
Fodd bynnag, un o’r manteision mwyaf o’r cyfnod hwn yw ein bod yn gwneud pethau’n gyflymach nag y byddem mewn amgylchiadau arferol. Cafodd y gwasanaethau craidd ar gyfer Taf ac Abbeyfield, wrth gyflawni anghenion tenantiaid, eu symleiddio. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle unigryw i ni edrych yn wahanol ar fusnesau, gan ysgogi adolygiad strategol o sut mae pethau’n gweithio i’n cymunedau.
Fel bwrdd, buom yn gofyn mwy o gwestiynau am y gwasanaethau a gaiff eu darparu a sut maent yn adlewyrchu newid mewn anghenion. Rydym yn herio ein hunain i ddysgu o’r ffordd yr effeithiwyd ar feysydd tebyg i ddigartrefedd, gan ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i wella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
Gall bod yn aelod bwrdd fod yn brofiad anesmwyth i ddechrau, nes eich bod yn dechrau deall yn well sut mae sefydliad yn gweithio a datblygu golwg mwy holistig. Fodd bynnag, mae’n gyfle dysgu cyson. Fel aelodau bwrdd unigol, ni ddisgwylir i ni wybod a chael yr holl atebion i bopeth, mae pob un ohonom yn dod â sgiliau ac arbenigedd gwahanol i’r bwrdd, sy’n golygu ein bod yn cydweithio fel tîm.