Aeth ymgyrch ‘Dyma’r Sector Tai’ yn fyw yn ôl ym mis Medi 2019 a chafodd ddechrau rhagorol drwy dorri ei thargedau ei hun ar gyfer y flwyddyn ar ddiwrnod cyntaf y lansiad a rhoi sylw i’r sector tai gwych sydd gennym yma yng Nghymru.
Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn newydd, yn dilyn 2020 heriol i bawb, rydym yn awyddus i gynnig mwy o’r ymgyrch, felly heddiw rydym yn falch iawn i lansio ‘Trafod Tai’, blog newydd fydd yn edrych yn ddyfnach ar dai cymdeithasol a rhoi cipolwg go iawn ar y gwaith gwych sy’n mynd rhagddo tu ôl i’r llenni, ac i ychwanegu at hyn byddwn hefyd yn mynd â ‘Dyma’r Sector Tai’ ar daith.
I ddechrau pethau, mae gennym ddau flog diddorol i chi, gyda Darrin Davies o Tai Cymoedd i Arfordir yn siarad am eu hymagwedd at gynaliadwyedd a sut y bydd eu rôl yn helpu i greu diwydiant ôl-osod newydd yng Nghymru yn cynorthwyo’r sector i ostwng allyriadau carbon. Tuag at ddiwedd y mis bydd Shayoni Lynn o Lynn PR yn rhannu manylion ymgyrch lwyddiannus iawn Rhenti Teg a gynhaliodd gyda Tai Bron Afon yng Nghwmbrân a ddefnyddiodd ddata a gwyddor ymddygiadol i gael canlyniadau pwysig.
Gallwch ddarllen blog Darrin yma:
Sut y mae un gymdeithas dai yng Nghymru yn lleihau ei hôl troed carbon, un cam ar y tro – Cymoedd i Arfordir (6 munud o ddarllen)
Yn 2021 hefyd bydd ‘Dyma’r Sector Tai’ yn mynd ar daith o amgylch y wlad gyda gwesteion yn cymryd drosodd drwy gydol y flwyddyn. Yn gyntaf tro adran newydd, Pobl, Diwylliant a Datblygu Sefydliadol Cymoedd i Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr fydd hi.
Yn cynnwys y timau Pobl, Dysgu a Datblygu a Chyfathrebu, byddant yn rhannu cynnwys newydd a swyddi o’r sector yn ogystal â’n helpu i lansio’r blog newydd.
Felly cadwch eich llygad ar agor am y diweddaraf drwy gydol y mis ac os nad ydych yn gwneud hynny eisoes, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.