Skip to main content

Beth mae’n ei olygu i fod yn aelod o’r bwrdd?

Mae Sian Thomas yn Rheolydd Tai gyda Cynon Taf a chafodd ei chyfethol i fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Rhagfyr 2018.

“Gan fod yn rheolydd gweithredol, roeddwn eisiau cael cyfle i gael profiad gwerthfawr yn gweithio ar lefel fwy strategol a bu’n bleser medru gwneud hyn drwy weithio gyda grŵp mor wych o staff a chyd-aelodau bwrdd ymroddedig.

Aiff buddion bod ar fwrdd ymhell tu hwnt i’r ystafell fwrdd. Bu hyn yn sicr yn wir i fi. Rwyf wedi medru cynyddu fy sgiliau llywodraethiant ac mae’r wybodaeth hon wedi helpu fy rôl drwy gefnogi cydymffurfiaeth sefydliadol a gweithrediadau cadarn o fewn CHC. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gynrychioli’r heriau sy’n wynebu’r sector.

Drwy gael gwell dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng materion strategol a gweithredol, mae fy hyder wedi cynyddu o fewn gosodiad y bwrdd. Rwy’n awr yn medru herio’n effeithlon a chyfrannu at drafodaethau gydag argyhoeddiad ac yn hyderus.

Fel aelod o Fwrdd CHC byddwch yn rhan o daith gyffrous yn cefnogi cyflawni ein cynllun corfforaethol tair-blynedd uchelgeisiol, a hefyd asesu’r heriau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg yn y sector yn sgil Covid-19.

Mae bod yn rhan o’r bwrdd wedi fy helpu i gysylltu gyda rhai o’r gweithwyr tai mwyaf angerddol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwnnw. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n dymuno cael profiad gwerthfawr o fod yn aelod bwrdd a gwneud gwahaniaeth go iawn yr un pryd.”

Gwnewch gais i ymuno â Bwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru yma.