Diben cymdeithasau tai yw darparu cartrefi ansawdd da, fforddiadwy a diogel lle mae pobl eisiau byw.
Mae 37 o gymdeithasau tai mawr ledled Cymru a llawer o rai lleol, llai. Gyda’i gilydd, maent yn adeiladu a rheoli cartrefi ar gyfer tua 10% o boblogaeth Cymru.
Yn wahanol i gynghorau, sy’n gyrff sector cyhoeddus, mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gyrff annibynnol a gaiff eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru. Caiff unrhyw arian gwarged a wnânt ei ddefnyddio i gynnal a chadw cartrefi presennol, cyllido cartrefi newydd a darparu gwasanaethau ychwanegol i’r cymunedau maent yn seiliedig ynddynt.
Mae cymdeithasau tai yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at adeiladu tai cymdeithasol newydd ar draws Cymru. Mae cymdeithasau tai hefyd yn codi arian i adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd drwy fenthyca gan fanciau a defnyddio’r refeniw a godir o adeiladu cartrefi ar werth. Yn 2017/18, fe wnaethant adeiladu 1,876 o gartrefi newydd, 1,391 yn defnyddio grant tai cymdeithasol a 485 heb grant.
Nid dim ond adeiladu tai mae cymdeithasau tai. Yn 2018 fe wnaethant fuddsoddi £445m yn gweithio gyda darparwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill ar brosiectau seiliedig yn y gymuned, y rhoddir enghreifftiau ohonynt yma.