Skip to main content

Mae Cymru mewn argyfwng tai. Problem sy’n ei gwneud yn anhygoel o anodd prynu cartref, fforddio rhent neu sicrhau lloches am y noson. Does gennym ni ddim digon o gartrefi!

Ar hyn o bryd mae dros 60,000 o bobl yn aros am gartref cymdeithasol yng Nghymru. Cymdeithasau tai yw’r prif gyfranwyr at fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru. Maent yn darparu cartrefi ac adeiladu cymunedau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Maent ar y trywydd i adeiladu dros 12,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, ond mae ganddynt hefyd uchelgais i wneud llawer mwy.