Skip to main content

Alys yn ffeindio swydd creadigol sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth

Chwe mlynedd yn ôl, bron i’r diwrnod, fe wnes ddihuno a meddwl wrthyf fy hun ‘Rwyf eisiau gwneud rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a dechrau rhoi’n ôl i’r gymuned’.

Fis wedyn, dechreuais ar fy swydd gyntaf mewn gofal cymunedol ar ôl hyfforddi yn y celfyddydau mwy ‘creadigol’ mewn Cyfathrebu Graffeg.

Soniodd llawer fy mod yn gwneud newid gyrfa enfawr, ond y cyfan y gallwn feddwl oedd, ‘os nad wyf yn helpu yn y gwaith a wnaf, a fyddwn erioed yn teimlo ymdeimlad o ddiben yn fy ngyrfa?’

Nid oedd gweithio mewn swydd i ennill cyflog a mynd adre erioed yn mynd i fod yn ddigon i mi; roeddwn angen teimlo mod i’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai o fy nghwmpas.

A symud ymlaen ychydig flynyddoedd, cefais gyfle i gychwyn prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, yn seiliedig yn nhîm yr un sefydliad lle’r oeddwn yn ofalwr.

Mae gwneud y newid wedi bod yn wych; rwy’n teimlo fel mod i’n dal i gael gwneud yr hyn y gwnes hyfforddi ar ei gyfer yn wreiddiol tra’n dal i fod â’r cysylltiad hwnnw gyda’r gymuned. Y mis yma fe wnes gais llwyddiannus am swydd barhaol gyda Hafod fel Cymhorthydd Cyfathrebu a fedrwn ni ddim bod yn hapusach.

Gweithio mewn amgylchedd creadigol a gofalgar, yng nghanol pobl sydd i gyd eisiau helpu pobl mewn rhyw ffordd, yw yn union pam i mi ddechrau ar yrfa gyffrous mewn tai, cymorth a gofal.

Rwy’n dal i wneud cysylltiadau go iawn gyda’r gymuned sy’n gwneud bob dydd yn werth chweil.


Mae Alys yn Gymhorthydd Cyfathrebu gyda Hafod