Skip to main content

Alla’ i ddim credu nad oeddwn yn gwybod bod cymdeithasau tai’n bodoli.

(Stori 2 funud)

A dweud y gwir, doeddwn i’n gwybod dim am gymdeithasau tai cyn ymuno ag ateb. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw’n bodoli! Ddeuddeg mlynedd yn ôl, roeddwn yn byw yn Rhydychen ac yn gweithio i’r GIG, ac roedd fy nheulu am symud yn ôl i Gymru. Roeddwn yn chwilio am unrhyw swydd wag ym maes Adnoddau Dynol yn yr ardal roeddem yn ei hystyried ac fe welais fod Tai Sir Benfro, sef ateb erbyn hyn, yn hysbysebu swydd o’r fath. Meddyliais fod cystal i fi ymgeisio, a chefais gynnig y swydd. 

Roeddwn braidd yn ofnus ar y dechrau wrth symud o ymddiriedolaeth fawr yn y GIG, â thros 9,500 o staff, i sefydliad bach â thua 90 o staff ar y pryd. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gen i ddigon i’w wneud! Dyna beth oedd camgymeriad! Wrth ystyried y 12 mlynedd diwethaf, rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod gydag ateb yn fawr. Mae’r sefydliad wedi tyfu, ac mae fy swydd innau wedi tyfu hefyd gan fy mod yn awr yn gofalu am waith cyfathrebu. Rwy’n rhydd i weithio ar ystod eang o brosiectau, sy’n ehangu fy ngwybodaeth a’m profiad. Ni fyddai wedi bod mor hawdd i fi wneud hynny yn fy swydd flaenorol, oherwydd yno roeddem yn gweithio mewn swyddi arbenigol iawn. 

Rwyf wedi cael fy synnu gan yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael mewn cymdeithas dai, ac mae’r cymorth y mae ein timau yn ei roi i’n cwsmeriaid wedi gwneud argraff fawr arnaf. Alla’ i ddim credu nad oeddwn yn gwybod am gymdeithasau tai cyn i fi ymuno, ac rwy’n teimlo eu bod yn lleoedd gwych i weithio ynddynt. Dwi ddim yn cael fy nghyfyngu gan yr holl waith papur diddiwedd yr oeddwn yn ei wynebu’n aml yn fy swydd flaenorol. Mae cymaint o gyfleoedd i arloesi, a’r hyn rwy’n ei hoffi fwyaf yw’r ffaith fy mod yn gallu gweld yr effaith y mae gwaith tîm ateb yn ei chael wrth greu atebion gwell o ran byw i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 

Victoria Evans, Rheolwr Pobl a Chyfathrebu yng Ngrŵp ateb.