Skip to main content

Aeth Darren o’r lluoedd arfog i helpu pobl i ganfod llwybr gyrfa

Cyrhaeddais y sector tai ar lwybr gyrfa eithaf anghonfensiynol, gan ddechrau fel Rhingyll Hyfforddwr yn yr Heddlu Milwrol Brenhinol. Ailhyfforddais ar ôl gadael y lluoedd arfog a gwneud gradd addysgu, cyn gweithio fel athro yng Ngholeg Gwent.

Roeddwn wrth fy modd yn gweld pobl yn dysgu a medru eu haddysgu a’u gosod ar eu llwybr gyrfa eu hunain, ond teimlwn y gallwn wneud mwy.

Daeth y cyfle hwnnw i helpu pobl pan welais hysbyseb swydd gyda Tai Calon fel Hyfforddydd Cyflogaeth a Menter yn gynnar yn 2019. Yn fy swydd, rwy’n helpu pobl i feithrin eu hyder a’u hybu i wireddu eu potensial, nid dim ond ar gyfer tenantiaid Tai Calon, ond unrhyw un yn y gymuned leol sydd angen cefnogaeth. Mae mor werth chweil gweld pobl yn llwyddo. Clywais yn ddiweddar gan berson a gefnogais, sy’n awr yn y Gwarchodlu Cymreig.

Rwyf hefyd wedi sefydlu hyb Dug Caeredin, gan gysylltu gyda phobl ifanc yn y gymuned leol sydd â gwahanol alluoedd dysgu ac addysgu sgiliau newydd iddynt a meithrin eu hyder. Fe wnaeth 12 o bobl ifanc gwblhau’r dyfarniad Efydd y llynedd!

Mae fy rôl wedi newid llawer gyda phandemig Covid-19 a rwyf wedi bod yn cefnogi cydweithwyr drwy ddosbarthu bwyd yn y gymuned leol. Er fod cefnogaeth cyflogaeth wyneb i wyneb wedi ei ohirio dros dro, cefais yr amser hwn yn werthfawr tu hwnt wrth feithrin perthynas gydag aelodau o’r gymuned, ac rwyf wedi medru cynnig cefnogaeth neu gyfeirio tenantiaid at bobl a all helpu.

Gyda chynifer o bobl ar ffyrlo, neu wedi colli eu swyddi oherwydd yr argyfwng, gwelais gyfle i’w cefnogi i gynyddu eu sgiliau a pharatoi i fynd nôl i’r gwaith yn y dyfodol agos. Cysylltais gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Remploy a pharatoi adnoddau sy’n awr yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim. Mae pump o denantiaid Tai Calon eisoes wedi cofrestru ac maent yn awr yn derbyn cefnogaeth bwrpasol un i un fydd yn eu helpu i fynd nôl i’r gwaith.

Unwaith y bydd hyn i gyd drosodd, rwy’n edrych ymlaen at sefydlu gardd gymunedol fydd â chaffe a rhandir a chynnal dosbarthiadau ar gyfer pob oed yn amrywio o goginio i sgiliau garddio.

Mae Darren yn Hyfforddydd Cyflogaeth a Menter gyda Tai Calon