Skip to main content

5 rheswm dros ddewis gyrfa yn y sector tai

(4 munud o ddarllen)

Helô. Nick ydw i, ac rwy’n gweithio yn y sector tai ers bron 30 mlynedd. Yn y blog hwn, byddaf yn rhannu 5 rheswm sy’n egluro pam rwyf o’r farn bod gweithio yn y sector tai yn ddewis gwych o ran gyrfa.

#1 Cyfleoedd

Mae cymdeithasau tai yn faes busnes sylweddol sy’n gwasanaethu llawer o gwsmeriaid, yn cyflogi grwpiau mawr o bobl ac yn rheoli trosiant ac asedau sy’n werth miliynau o bunnoedd. Mae hynny’n golygu bod ar gymdeithasau tai angen yr holl sgiliau busnes arferol, er enghraifft sgiliau ym maes cyllid/cyfrifyddu, adnoddau dynol, gwella perfformiad, rheoli prosiect, caffael, datblygu systemau TGCh, rheoli llinell a llywodraethu. Mae’r sgiliau hynny’n ychwanegol at ein gwaith ym maes rheoli cydberthnasau â chwsmeriaid, datblygu eiddo, darparu gofal, diwallu anghenion pobl hŷn o ran cymorth a rheoli eiddo, a gyflawnir ar y cyd gan dimau sy’n darparu’r gwasanaethau y mae ein cwsmeriaid yn eu gweld. Mae cymdeithasau tai’n amrywio o ran eu ffurf a’u maint, sy’n golygu bod swyddi ar gael sy’n cynnig lefelau amrywiol o gyfrifoldeb, boed i’r sawl sy’n dechrau ar eu gyrfa neu’r sawl sydd wrthi’n datblygu eu gyrfa. Gan fod y sector yn cynnwys cymaint o broffesiynau amrywiol a phecynnau cymorth i chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach, mae’r cyfleoedd yn sylweddol ac yn werth eu hystyried o ddifrif.

#2 Gwerthoedd

Mae cymdeithasau tai’n cynorthwyo pobl a theuluoedd yn uniongyrchol i fyw mewn cartrefi diogel, cynnes a chynaliadwy. Mae’r canlyniad hwn yn bwysig iawn i’n dull cyfannol o gyflawni busnes, ac mae felly’n creu cyfres unigryw o werthoedd busnes sy’n cyfuno’r angen i fod yn effeithiol ac yn arloesol â’r angen i fod yn garedig ac yn ofalgar ar yr un pryd. Mae gweithio mewn amgylchedd lle mae eich ymdrechion yn gallu cyfoethogi bywyd rhywun yn wirioneddol bob dydd yn rhoi llawer iawn o foddhad, yn ogystal â’r rhyddid i’n herio ein hunain i wneud defnydd mwy effeithiol o’r adnoddau sydd gennym. Yn y byd sydd ohoni, sy’n newid mor sydyn, mae’n gysur gwybod bod gwerthoedd cymdeithasau tai wedi parhau’n bwysig ac wedi dod yn fwy perthnasol o gofio’r galw sydd ym mhob un o’n cymunedau am dai fforddiadwy. Bydd y cwsmer yn ganolog i bopeth bob amser.

#3 Gyrfaoedd

Mae cymdeithasau tai’n cynnig cyfleoedd gwirioneddol dda o ran gyrfa ym mhob disgyblaeth sy’n rhan o’u busnes. Dechreuais i ar fy ngyrfa mewn cymdeithas dai leol, fach ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio mewn amryw gymdeithasau o wahanol faint, sydd wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau o ran eu datblygiad. Ym mhob swydd rwyf wedi’i dal, rwyf wedi medru deall a dysgu mwy amdanaf fy hun ac am sut y gallaf weithio gyda phobl eraill i wneud gwahaniaeth. Wrth gymhwyso’n Syrfëwr a phan oeddwn yn gweithio mewn cwmni ymgynghori preifat, feddyliais i fyth y byddwn yn y swydd rwyf ynddi heddiw. Rydym bob amser yn deall pethau’n well ar ôl iddynt ddigwydd, ond o wybod yr hyn rwy’n ei wybod yn awr am y gyrfaoedd y gall pobl eu datblygu mewn cymdeithasau tai, a’r cymorth y gallwch ei gael gan gydweithwyr a thrwy gyfleoedd ffurfiol i gael hyfforddiant/datblygu, byddwn yn bendant yn dweud bod cymdeithasau tai yn fannau delfrydol i feithrin gyrfa (beth bynnag fo’r ddisgyblaeth y byddwch yn ei dewis).

#4 Deinamig

Dyw’r sector tai byth yn sefyll yn llonydd, oherwydd mae pob dydd yn cynnig heriau newydd i’w deall a’u goresgyn. Gall yr heriau strategol fod ar ffurf newidiadau rheoleiddiol, ansicrwydd economaidd, neu bandemig wrth gwrs! Gall yr heriau gweithredol fod yn gysylltiedig â phroblemau darparu gwasanaethau, problemau gyda systemau, neu lefelau adnoddau. Erbyn hyn, mae gan gymdeithasau tai lawer o wasanaethau a busnesau ategol sy’n cynorthwyo eu cymunedau ehangach, er enghraifft gwasanaethau gofal arbenigol ar gyfer pobl hŷn ac agored i niwed, tai deiliadaeth gymysg er mwyn creu cyfleoedd ac, yn fwy diweddar, gwaith buddsoddi mewn cyfleusterau i greu cartrefi modwlar yn uniongyrchol. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y mae cymdeithasau tai wedi ymateb dros gyfnod i’w hamgylchedd sy’n newid, gan lynu bob amser wrth eu diben craidd, ac maent yn dangos pam y mae cymdeithasau tai yn lleoedd mor ddiddorol i weithio ynddynt.

#5 Pobl

Mae yna lawer o bobl wych yn y sector cymdeithasau tai yng Nghymru. Pwy na fyddai am weithio gyda phobl rydych yn eu parchu ac yn mwynhau bod yn eu cwmni? Ledled Cymru, mae pobl o holl gymdeithasau tai’r wlad yn cysylltu â’i gilydd ac yn rhannu syniadau â’i gilydd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hynny’n creu llwyfan gwych nid yn unig i wella ar y cyd ond hefyd i ddatblygu unigolion. Mae’r gallu i drafod problemau neu syniadau â phobl eraill o’r un anian â chi yn eich helpu chi a’ch busnes i dyfu. Pobl sydd wrth wraidd unrhyw fusnes, ac mae hynny’n sicr yn wir am gymdeithasau tai. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau da ar hyd y daith ac wedi dysgu cymaint gan gynifer o bobl – ac rwy’n dal i wneud hynny! Gall y darlun sydd gan rai pobl o gymdeithasau tai fod yn eithaf cyfyngedig, ond bydd y sawl sy’n edrych y tu hwnt i unrhyw gamsyniadau’n gweld sector sy’n llawn o bobl flaengar, gefnogol ac ymroddgar sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth.

Nick Hampshire, Prif Weithredwr Grŵp ateb