(3 munud o ddarllen)
Yn y blog diweddaraf i Trafod Tai, mae Anna Griffin o Cartrefi Dinas Casnewydd yn rhannu ei 3 awgrym ardderchog am gychwyn arni yn y sector. Mae Anna yn brofiadol iawn wrth recriwtio ac mae’n trafod pwysigrwydd ymchwil, gwerthoedd a rhwydweithio i wneud i’ch hun sefyll allan o flaen y gystadleuaeth
Felly rydych yn meddwl mynd i’r sector tai? Yn gyntaf oll, mae hyn yn benderfyniad gwych, mae’n lle gwerth chweil iawn i weithio ynddo ac mae amrywiaeth enfawr o swyddi hefyd, felly mae cyfle i dyfu gyrfa a symud o amgylch o fewn sefydliadau. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo ychydig yn ansicr am beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud a pha gwestiynau y gallent eu gofyn i chi, felly dyma fy 3 awgrym i’ch rhoi ar ben y ffordd …
1. Gwneud eich ymchwil: Mae hyn yn bwysig ar gyfer unrhyw swydd y gwnewch gais amdani ond mae mor bwysig deall beth yw cymdeithas tai a’r hyn a wnawn. Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai ar wahân i awdurdodau lleol ac felly mae’n debyg na fyddai ateb y cwestiwn “beth ydych chi’n ei wybod amdanom” gyda “rydych chi’n darparu tai cyngor” yn rhoi’r dechrau gorau i chi! Mae Dyma’r Sector Tai yn rhoi trosolwg gwych ar gymdeithasau tai a bydd yn dangos eich bod wedi gwneud eich ymchwil, dyna’r dechrau rydych ei eisiau i gyfweliad! Hefyd, cadwch lygad ar ddatblygiadau polisi (bydd 3 yn helpu gyda hyn) – mae cymaint o newid yn mynd rhagddo ar hyn o bryd felly gwych iawn os gallwch gyfeirio at hyn
2. Meddwl sut mae eich gwerthoedd chi yn cyfateb â’n gwerthoedd ni: Nid oes unrhyw ddadl bod y sector tai yn cael effaith enfawr ar fywydau ein cwsmeriaid a’n cymunedau a dyma’r prif sbardun tu ôl i’r rhan fwyaf o gydweithwyr o fewn y sector. Er bod y byd tai yn newid ac yn gorfod dod yn fwy masnachol, mae ein gwerthoedd yn dal yn greiddiol i’n gwaith ac mae’n hanfodol fod aelodau ein staff yn eu rhannu. Mae bod eisiau gwneud gwahaniaeth yn allweddol, mae’n bwysig dangos sut mae hyn yn eich sbarduno. Nid blwch ticio gyrfa yw rhôi’n ôl i’r gymuned a gweithio i gymdeithas gyda gwerthoedd cymdeithasol, rydym yn edrych am unigolion diffuant y mae eu gwerthoedd personol yn cyfateb â gwerthoedd a chenhadaeth ein sefydliad.
3. Rhwydweithio cymaint ag y medrwch: Mae llawer o gymdeithasu tai yn tyfu, rydym yn edrych am sgiliau ar gyfer y dyfodol ac yn ymroddedig i roi cymorth cyflogaeth. Os ydych yn angerddol am weithio yn y sector ond heb fod yn hollol siŵr beth ydych eisiau ei wneud eto – mae hynny’n iawn! Cadwch lygad am gyfleoedd hyfforddi (mae llawer o swyddi Kickstart ar hyn o bryd!), dangoswch eich angerdd a thynnu sylw at y gwerthoedd hynny rydym yn eu trafod a gallwch fynd ymhell! Dilynwch bobl ar Twitter (manylion cyswllt), ymestyn allan i logi rheolwyr a recriwtwyr, dechrau eich tudalen LinkedIn – cofiwch fod pawb ohonom wedi dechrau arni yn rhywle a gallai un sgwrs danio eich gyrfa!
Peidiwch anghofio, mae llawer o astudiaethau achos ar Dyma’r Sector Tai sy’n dangos faint o gydweithwyr sydd wedi dringo’r ysgol yn eithaf cyflym a hefyd wedi “syrthio i yrfa mewn tai” – efallai nad aethoch ati yn fwriadol i geisio gyrfa yma, ond cyhyd â’ch bod yn gwneud eich ymchwil ac yn rhannu’r angerdd hwnnw, rwy’n siŵr y gwnewch yn wych! Rydym bob amser angen syniadau ffres a safbwyntiau newydd.
Os byddwch byth yn edrych am gyngor ar yrfaoedd neu gymorth gyda chyfweliad, estynnwch allan a byddaf yn fwy na hapus i gefnogi (p’un ai yng Nghartrefi Dinas Casnewydd ai peidio).
E-bost: anna.griffin@newportcityhomes.com Twitter: @annalouise95 LinkedIn: Anna Griffin