(3 munud o ddarllen)
Yn y blog hwn siaradwn gyda Annette Kerr, Swyddog Buddsoddi Cymunedol Cymdeithas Tai Taf
Yn y flwyddyn ddiwethaf mae llawer ohonom wedi teimlo ar wahân ac yn unig gan fod y cyfleoedd i fynd mas a chysylltu gyda’n hamgylchedd yn gyfyngedig.
Ers blynyddoedd lawer mae Taf wedi cynnig cyfle i gwsmeriaid i dyfu cynnyrch yn ein gofod rhandir yng nghanol Caerdydd. Gwelsom drwy’r pandemig fod y defnydd o ofodau gwyrdd trefol wedi dod yn bwysicach byth ar gyfer pobl a thyfodd yr angen ar gyfer y grŵp yma.
Felly aethom ati i gynyddu y rhandiroedd a gynigiwn a, gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, bu modd i ni sicrhau ail lain sydd wedi galluogi’r gymuned yn ein rhandir i ehangu. Mae angerdd y tyfwyr wedi golygu y gallodd y rhandir addasu a dod yn ofod hygyrch i bawb drwy newid ei gynnig i bobl beth bynnag eu gallu corfforol, eu cefndir neu eu profiad.
A thrwy gydol y cyfnod clo bu presgripsiwn cymdeithasol ar y rhandir i helpu’r rhai oedd yn cael anawsterau gyda iechyd meddwl neu deimladau o unigrwydd. Dywedodd dyn wrthyf yn ddiweddar na fyddai’n gwybod lle byddai heddiw pe na fyddai dechrau yn y rhandir. Roedd yn byw ar ben ei hun, byth yn mynd allan yn gymdeithasol ac yn teimlo’n isel. Mae yno nawr bron bob dydd beth bynnag y tywydd ac wedi gwneud ffrindiau da. Mae’n tyfu ei gynnyrch ei hun ac yn teimlo’n well oherwydd hynny.
Yn yr wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ni allwn danlinellu pa mor bwysig yw hi i gysylltu gyda’n gofodau awyr agored, ac fel sefydliad cymunedol rydym yn gwrando ar yr adborth gan ein cwsmeriaid a byddwn yn parhau i geisio adeiladu cyfleoedd sy’n galluogi cysylltu gyda natur. Mae rhandir Taf yn helpu i greu cyfeillgarwch a hefyd wedi helpu teuluoedd i addysgu plant am dwf cynaliadwy a phwysigrwydd diet iach a chytbwys – rhywbeth y gwyddom hefyd sy’n hanfodol i gefnogi iechyd meddwl.